Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser: Sgrinio am Ganser

Dydd Mercher 17 Mehefin.

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Yn bresennol

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Pip Ford, Cymdeithas Ffisiotherapyddion

Clare Bath, CR-UK

Sue Hadlow, Cynrychiolydd cleifion

Stephanie Smits, Myfyrwraig PhD PHW

Nick Phillips, Canser Coluddyn Cymru

Linda McCarthy, Gofal Canser y Fron Cymru

Lowri Griffiths, Macmillan

Lee Campbell, Ymchwil Canser Cymru

Raj Khera, Cynghorydd Polisi, Adran Polisi, Ymchwil Canser y DU

Margaret Hutchinson, Cynrychiolydd y Cleifion

Altaf Hussain AC, a Mark Major, Ymchwilydd

Karen Mcgree, Canser Arennau yr Alban

Sian Whelan, Nyrs Ymchwil, CR-UK

Annie Mullholan, Cynrychiolydd Cleifion

Dr Heather Payne, Uwch-swyddog Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant, Llywodraeth Cymru

Jon Antoniazzi ac Ian Lewis, Tenovus

Siaradwyr: Dr Rosemary Fox, Hayley Heard, Rachel Jones, Sikha de Souza

Agenda

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Julie Morgan AC.

 •  Cyflwyniad i Wasanaeth Sgrinio Cymru: Dr Rosemary Fox

 •  Rhaglenni Sgrinio'r Coluddyn, Sgrinio'r Fron a Sgrinio Serfigol a chynlluniau'r dyfodol: Penaethiaid Rhaglenni

 •  Gwaith cyfranogi er mwyn codi niferoedd a gwella anghydraddoldebau: Dr Sikha de Souza, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus

 •  Trafodaeth o'r modd y gallwn gydweithio i wella cyfraddau sgrinio'r coluddyn a negeseuon sgrinio: Pawb

Cofnodion

1.       Mae cyflwyniadau ynghlwm wrth y cofnodion hyn

 

2.       Trafodaeth ynghylch niferoedd ac ymwybyddiaeth

Tynnodd Dr Sikha sylw at y ffaith mai dynion mewn ardaloedd difreintiedig sydd leiaf tebygol o fynd ar gyfer sgrinio'r coluddyn, a bod y timau sgrinio cymunedol yn gweithio mewn cymunedau i godi'r niferoedd sy'n cael eu sgrinio ymysg y gwahanol grwpiau. Maent yn defnyddio ffyrdd gwahanol o weithio, yn ôl anghenion y cymunedau.

Mae'r Gwasanaeth Sgrinio hefyd yn rhedeg ymgyrch Sgrinio am Oes drwy fis Gorffennaf:

Gwybodaeth am ymgyrch Sgrinio am Oes a phecyn adnoddau: http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/ymgyrch-sgrinio-am-oes

Y prif negeseuon am y rhaglenni sgrinio i oedolion: http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/prif-negeseuon-sgrinio-am-oes

Gwybodaeth ystadegol am y niferoedd sy'n cael eu sgrinio, gyda mapiau o ardaloedd lleol: http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/adroddiadau-ystadegol

Gall pobl gofrestru i'r Thunderclap hwn er mwyn cefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol: https://www.thunderclap.it/projects/27059-screening-for-life-2015

Nododd Mike Hedges AC fod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio yn hynod o isel yn Nwyrain Abertawe a gofynnodd a oedd y Gwasanaeth Sgrinio wedi ystyried defnyddio papurau newydd lleol i hyrwyddo Sgrinio, gan fod nifer fawr o bobl yn yr oedrannau sgrinio yn darllen y rhain o hyd.

Tynnodd Altaf Hussain AC sylw i'r ffaith y gall atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu ar gyfer sgrinio gymryd 6 mis. Dywedodd Dr Rosemary Fox fod atgyfeiriadau’r Gwasanaeth Sgrinio yn gyflymach o lawer, felly peth call yw mynd trwy'r gwasanaeth sgrinio pan ddaw'r gwahoddiad. Mae'r Gwasanaeth Sgrinio yn gweithio gyda'r clystyrau meddygon teulu newydd ac mae arweinydd sgrinio ym mhob ardal glwstwr. Mae'r Gwasanaeth Sgrinio hefyd yn monitro targedau sgrinio meddygon teulu.

3.       Trafodaeth ar anfanteision sgrinio.

Tynnodd Dr Fox sylw at rai o'r anfanteision, gan gynnwys y posibiliad y bydd ychydig o ymbelydredd mewn sgrinio'r fron a gor-ddiagnosis, a'r ffaith y gall colonosgopi weithiau achosi rhwygiad, felly nid yw'r Gwasanaeth Sgrinio byth yn dweud wrth bobl y dylent fynd, eithr mae'n eu cynghori ynghylch y manteision.

Dyfynnodd Annie Mullholland o erthygl yn llyfr Dr Hammond ynghylch sgrinio sy'n awgrymu mai'r bobl anghywir sy'n mynd ar gyfer sgrinio, ac mai'r rhai hynny y mae eu risg o gael canser yn uwch y dylid eu targedu mwy. Teimlai Annie y dylid hysbysu pobl yn fwy am risgiau sgrinio fel y teimlant fod ganddynt y gallu i benderfynu drostynt eu hunain.

Cytunodd Dr Fox ein bod weithiau yn gor-ddweud am effeithiau sgrinio, ac yn diystyru'r peryglon, ond byddai canser ceg y groth bedair gwaith yn fwy cyffredin yng Nghymru oni bai am sgrinio serfigol a'r brechlyn HPV, ac mae'r rhaglenni hyn wedi dod â manteision enfawr yn y frwydr yn erbyn canser ceg y groth.

4.       Y Brechlyn HPV ar gyfer bechgyn a phrawf imiwnogemegol ysgarthion (FIT) ar gyfer Rhaglen Sgrinio Coluddion

Gofynnodd Jon Antoniazzi o Tenovus ynghylch brechu bechgyn â HPV o ystyried y manteision enfawr a gafwyd trwy frechu merched, a hefyd sut y gallwn sicrhau fod pecynnau sgrinio'r coluddyn yn dod yn fwy amlwg gan fod pobl yn aml yn anghofio amdanynt. Hefyd, sut y gellir defnyddio fferylliaeth i helpu i hyrwyddo sgrinio, ac a ymgorfforir y Prawf FIT yn y Rhaglen Sgrinio Coluddion.

Dywedodd Dr Fox nad ydym eto'n gwybod digon am ba hyd y bydd y brechlyn HPV yn para, ond dylem ddechrau gweld mwy o ostyngiad mewn annormaleddau, ac yn y pen draw efallai y cyrhaeddwn sefyllfa lle na fydd angen sgrinio serfigol o gwbl .

Mae'r Gwasanaeth Sgrinio Coluddion yn rhoi profion yn y gymuned mewn partneriaeth â Tenovus, Fferylliaeth, a meddygfeydd meddygon teulu. Mae hefyd yn gweithio gyda gofal sylfaenol i roi gwybod iddo am y rhai nad ydynt yn ymateb.

Cytunodd Dr Fox y byddai'r Prawf FIT yn bendant yn ffordd gadarnhaol ymlaen ar gyfer Sgrinio Coluddion wrth i nifer y bobl sy'n manteisio ar y profion gynyddu, ond mae'n gostus a byddai amseroedd aros am golonosgopi yn codi wrth i ragor o bobl fynd drwy'r system FIT oherwydd y cynnydd yn ei sensitifrwydd. Bydd y Gwasanaeth Sgrinio Coluddion newid i FIT yn y dyfodol, ond mae angen gwella'r amseroedd aros ar gyfer colonosgopi yn gyntaf.

Dywedodd Dr Fox ei bod yn ymddangos bod y llythyrau cymeradwyaeth y mae CR-UK eu hanfon at wahoddedigion ar gyfer sgrinio ar ôl i'r pecyn gyrraedd yn y post yn helpu o ran y niferoedd, felly byddant yn ystyried parhau â hyn yn y cyfamser.

5.       Amseroedd aros ar gyfer colonosgopi

Roedd Aled Roberts AC hefyd yn bryderus am yr amseroedd aros ar gyfer colonosgopi mewn Byrddau Iechyd Lleol oddi ar atgyfeiriad gan feddyg teulu neu gan arall, gan mai tua phedair wythnos yw atgyfeiriadau sgrinio. Mae grŵp Gweinidogol yn ystyried amseroedd aros ar hyn o bryd. Cytunodd Aled Roberts hefyd y gall meddygon teulu helpu i wella niferoedd.

6.       Sgrinio am ganser y brostad

Gofynnodd Aled Roberts am sgrinio am ganser y brostad. Dywedodd Rose Fox fod y prawf presennol yn arwain at ormod o or-ddiagnosis a bod angen prawf gwell yn y dyfodol.

7.       Integreiddio negeseuon

Gofynnodd Linda McCarthy o Ofal Canser y Fron am gyfathrebu am raglenni sgrinio eraill yn ystod apwyntiadau sgrinio. Dywedodd Dr Sikha eu bod wedi datblygu rhai taflenni gyda'r prif negeseuon a bod y rhain yn integreiddio negeseuon sgrinio ac atal ynghylch, er enghraifft, ysmygu a'r ffordd y dewisa pobl fyw.

8.       Ymwybyddiaeth o oedran fel ffactor risg ar gyfer canser.

Cododd Ian Lewis o Tenovus bwysigrwydd hysbysu pobl o'r ffaith bod oedran yn risg o ran canser, ac awgrymodd y dylid rhoi cyngor yn yr apwyntiad olaf ar gyfer sgrinio yn egluro bod oedran yn dal i fod yn ffactor risg. Dywedodd Rose Fox fod y Gwasanaeth yn rhoi llythyr i bobl yn yr apwyntiad olaf. Nododd Ian Lewis fod y Prosiect Meincnodi Canser Rhyngwladol wedi dangos nad yw pobl yng Nghymru yn ymwybodol o'r ffaith bod oedran yn risg, ac efallai y gellid cynnal prosiect i ystyried hyn yn fanylach?

 

09.00 - daeth y cyfarfod i ben.